Pentref hoyw

Arddangosir baneri enfys pob mis Mehefin yn ardal The Castro yn San Francisco fel symbol o falchder hoyw ac undod LHDT.

Lleoliad daearyddol trefol gyda ffiniau yn gyffredinol cydnabyddedig, ac felly gan amlaf yn gymdogaeth, lle mae nifer mawr o bobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol, a thrawsryweddol yn byw yw pentref hoyw. Maent fel arfer yn cynnwys nifer o sefydliadau megis bariau a thafarndai, clybiau nos, baddondai, bwytai, siopau llyfrau, a busnesau eraill sydd wedi eu cyfeiriadu at bobl LHDT.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search